AboutGwybodaeth

Community radio for Aberystwyth and the surrounding areas.

Run by local people and broadcasting for local people, Radio Aber was community radio at its heart.

Radio Aber provided a fully bilingual broadcasting service, bringing together an array of local talent, interesting people and voices from across the community. Our aim was to champion local radio from the heart of mid-Wales, giving local people a platform and bringing the community together.

Local radio creates opportunities for communities to connect, share their stories and celebrate the people and places that make an area special. It can become a real hub of activity, particularly in areas that are under-served by local broadcasting.

It was with a heavy heart that the Radio Aber project came to a close. However, local broadcasting in Aberystwyth continues. Radio Bronglais (radiobronglais.wales) continues to serve the town, while sports commentary previously provided by Radio Aber is now available through CymruSport (cymrusport.cymru).

This archive preserves the story of Radio Aber, celebrating the people, programmes and community spirit that made it what it was.

Radio cymunedol i Aberystwyth a’r ardal.

Wedi’i redeg gan bobl leol ac yn darlledu ar gyfer pobl leol, roedd Radio Aber yn radio cymunedol yn ei hanfod.

Roedd Radio Aber yn darparu gwasanaeth darlledu cwbl ddwyieithog, gan ddod â thalent leol, pobl ddiddorol a lleisiau o bob rhan o’r gymuned at ei gilydd. Ein nod oedd hyrwyddo radio lleol o galon canolbarth Cymru, gan roi llwyfan i bobl leol a dod â’r gymuned ynghyd.

Mae radio lleol yn creu cyfleoedd i gymunedau ddod ynghyd, rhannu eu straeon a dathlu’r bobl a’r lleoedd sy’n gwneud ardal yn arbennig. Gall fod yn ganolbwynt pwysig i waith cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan ddarlledu lleol.

Daeth prosiect Radio Aber i ben gyda thristwch mawr. Fodd bynnag, mae darlledu lleol yn parhau yn Aberystwyth. Mae Radio Bronglais (radiobronglais.cymru) yn parhau i wasanaethu’r dref, ac mae sylwebaeth chwaraeon a ddarparwyd yn flaenorol gan Radio Aber bellach ar gael drwy CymruSport (cymrusport.cymru).

Mae’r archif hon yn diogelu hanes Radio Aber, gan ddathlu’r bobl, y rhaglenni a’r ysbryd cymunedol a’i gwnaeth yn rhan arbennig o’r gymuned.